Be wyddom ni o dan y ser
am be'r wyt ti,n breuddwydio,
i fyny ar dy weIy gwyn
fel deryn wedi'i daro?
Bydd baner ddu dros Gymru i gyd
Nes byddi di 'di deffro.
Yn joch o wisgi aur heb ddwr,
yn Lyndwr dros bob achos,
Yn rhuo dy farn, yn hun dy farf,
yn tarfu ar y plantos;
lle bynnag rwyt ti'n hel dy din,
mae'r Mabinogi'n agos.
Bydd rhai'n dy watwar yn dy win
fel melin glep yn rwdian,
ond mi fum i lawer gwaith drwy'r nos
yn gwrando swn dy hopran,
ac yn hel i siwrwd ser i'm sach,
Peter bach Goginan.
Twm Morys - 12.3.99
Fe fu Goginan farw'r diwrnod wedyn - 13.3.99
|